Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Gorffennaf 2019
Amser:
12.45 -
16.49
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5460
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Joe Teape, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Huw Thomas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Mandy Rayani, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Judith Paget, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Glyn Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Martine Price, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mark Jeffs |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chaiff fersiwn ddiwygiedig ei llunio i'w thrafod yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf 2019.
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar ychydig o fân ddiwygiadau a gaiff eu dosbarthu y tu allan i'r Pwyllgor.
3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Nodwyd y papurau.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
5.2 Cytunodd y Cyfarwyddwr Cyllid i anfon manylion am gyfanswm y gwariant ar daliadau goramser i staff parhaol mewn cyferbyniad â'r gostyngiad mewn gwariant ar staff asiantaeth.
5.3 Oherwydd cyfyngiadau amser, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Clercod yn ysgrifennu at y tystion i ofyn nifer o gwestiynau nad oedd amser i'w gofyn yn y cyfarfod.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
6.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Clercod yn ysgrifennu at y tystion i ofyn nifer o gwestiynau nad oedd amser i'w gofyn yn y cyfarfod.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Nododd yr Aelodau y rhaglen waith arfaethedig ar gyfer tymor yr hydref 2019.
10.1 Trafododd yr Aelodau y digwyddiad ar wrthsefyll twyll yn y sector cyhoeddus, gan roi eu hadborth i Archwilydd Cyffredinol Cymru.